• detached house
  • bedrooms

Property photos

Property description

SYLWADAU’R ASIANTAU:
Mae’r Hafod yn dŷ ar wahân wedi’i ddylunio’n unigol ac wedi’i gyflwyno’n dda. Mae mewn
lleoliad diarffordd rhagorol ar gyrion tref fechan Llandysul, ond eto o fewn taith gerdded hwylus i’r
mwyafrif o’i chyfleusterau. Mae yna olygfeydd godidog o’r dyffryn a’r coetir o flaen yr eiddo,
a gellir eu mwynhau ar hyd y flwyddyn. Mae’r eiddo wedi ei osod ychydig yn ôl o’r ffordd gyda dreif
breifat yn arwain ato. Mae’r llwyni aeddfed a choed o’i gwmpas yn darparu preifatrwydd hefyd. Mae yna
fannau eistedd deniadol o gwmpas yr eiddo ynghyd â lawnt sydd yn bennaf lethrog. Mae’r tŷ ei hun wedi
ei adeiladu mewn cynllun unigryw, ac y mae’n barod i symud mewn iddo. Argymhellir yn fawr i’w
ymwled gan ei fod yn anodd gwerthfawrogi ei ansawdd heb gael golwg arno.
 DARPERIR LLETY FEL A GANLYN - (DS. Mesuriad bras sydd i bob ystafell)LLAWR GWAELOD
Drws ffrynt cyfansawdd Upvc yn arwain i mewn i:
NEUADD DDERBYN gyda lloriau teils llechi, man storio gellid cerdded i mewn iddo o dan y grisiau, gyda rheiliau cotiau, rheiddiadur, grisiau i'r llawr 1af a drysau i mewn i:.
LOLFA 19'4” x 17'6” gyda lle tân arddull pentan gyda thrawstiau pren o'i amgylch a theils plinth, stôf amldanwydd wedi ei mewnosod gyda lle storio ychwanegol ar yr ochr ynghyd â chwpwrdd wedi'i fewnosod, ffenestr i'r tu blaen yn darparu golau a golygfeydd godidog, rheiddiadur a ffenestr ychwanegol i'r ochr.
CEGIN/YSTAFELL BWYTA 21'8” x 11'9” gyda lloriau teils llechi, amrywiaeth o gypyrddau pren o waith llaw mewn steil ‘Shaker’, wyneb gwaith llechi yn cynnwys sinc Belfast, wyneb gwaith pren ychwanegol, cefnfyrddau teils, RAYBURN wedi'i danio ag olew (hefyd yn twymo dŵr), pwynt popty trydan, 2 ffenestr i'r blaen, drws i mewn i’r:
CYNTEDD OCHR gyda drws cyfansawdd Upvc i'r blaen, rheiddiadur, lloriau teils llechi a drws i mewn i’r:
YSTAFELL AML-BWRPAS 9’9” x 6’ gyda phlymio ar gyfer peiriant golchi a pheiriant golchi llestri, uned sylfaen, gofod ar gyfer arwyneb gwaith, lloriau teils llechi, ffenestr gwydriad dwbl Upvc i’r ochr a drws i mewn i:
YSTAFELL YMOLCHI/YSTAFELL GAWOD gyda thoiled, uned ymolchi, cilfach oedd gynt yn giwbicl cawod ond a ddefnyddir bellach ar gyfer storio – gellid yn hawdd ei adfer, rheiddiadur, llawr teils llechi, ffenestr anrhyloyw ar yr ochr.
LLAWR 1af
Trwy risiau yn y neuadd dderbynfa gyda ffenestr Velux yn darparu golau helaeth ac yn arwain at ben grisiau gyda chyntedd i’r ochr, ffenestri i'r blaen, cwpwrdd storio wedi'i fewnosod ynghyd â cwpwrdd sychu gyda thanc dŵr poeth, rheiddiadur a drysau i mewn i:
PRIF YSTAFELL WELY 1 13'9" x 11'9" gyda lloriau pren yn y golwg, cwpwrdd dillad wedi ei fewnosod, ffenestr i'r blaen a drysau Ffrengig Upvc yn agor allan i deras preifat a chysgodol.
YSTAFELL YMOLCHI i'r teulu gyda chiwbicl cawod wedi'i fewnosod, waliau teils a chawod drydan MIRA, bath pen rholedig, basn ymolchi pedestal, toiled, ffenestr anrhyloyw yn y cefn, mynediad i ofod y to, rheiddiadur.
YSTAFELL WELY 2 10’9” x 10’7” gyda chwpwrdd dillad wedi ei fewnosod, rheiddiadur, cilfach gyda silffoedd, ffenestr yn y cefn.
YSTAFELL WELY 3 11'9" x 11'5" gyda lloriau pren yn y golwg, cwpwrdd dillad gyda lle storio uwchben wedi'u mewnosod, ffenestr i'r ochr gyda golygfeydd gwledig, rheiddiadur, trefn cynllun agored gyda:
YSTAFELL WELY 4 11’8” x 11’ cynllun agored gydag ystafell wely 3 ond gellid yn hawdd ei hadfer i ddwy ystafell wely ar wahân gyda drws yn uniongyrchol i’r pengrisiau, ffenestr Velux fawr yn y blaen, drws i ystafell storio llofft.
ALLANOL
Tramwyfa goncrit breifat gyda mynedfa wal gerrig ac yn arwain i fyny at fan parcio a throi o raean yn syth o flaen yr eiddo. O amgylch yr eiddo mae daear a gerddi eang gan gynnwys ardaloedd o laswellt ar lethr wrth ymyl y lôn.
Yn gyfagos i’r man parcio mae GWEITHDY PREN 20’x 10’ gyda drysau Ffrengig a ffenestri, YSTAFELL STORIO 16’5” x 7’7” - a fu gynt yn Swyddfa - gyda chyswllt trydan, drws gwydriad dwbl Upvc a phanel ochrog i’r tu blaen. Grisiau o'r man parcio i ddrws y Brif Fynedfa.
Ardal eistedd ychydig yn uwch yn y tu blaen a theras dan orchudd wedi ei adeiladu’n bwrpasol 15'x 9' ardal bwyta allanol/adloniant gyda Phergoda cyfagos.
Yn union y tu allan i'r brif ystafell wely mae teras preifat cysgodol.
Llwybr o gwmpas yr eiddo. Ardal laswelltog ar oleddf yn y cefn.
Disclaimer
All properties are offered for sale subject to contract and availability.
We endeavour to make our sales details accurate and reliable but they should not be relied on as statements or representations of fact and they do not constitute any part of an offer or contract. The seller does not make any representation or give any warranty in relation to the property and we have no authority to do so on behalf of the seller.
Services, fittings and equipment referred to in the sales details have not been tested (unless otherwise stated) and no warranty can be given as to their condition.
We would strongly recommend that all the information which we provide about the property is verified by yourself or your advisers.
Please contact us before viewing the property. If there is any point of particular importance to you we will be pleased to provide additional information or to make further enquiries. We will also confirm that the property remains available. This is particularly important if you are contemplating travelling some distance to view the property.
Read more

Council tax

Ask agent

First listed

Over a month ago

Marketed by

Dai Lewis - Llandysul 15 Wind Street Llandysul, Ceredigion SA44 4BD Contact agent

Placebuzz mortgage repayment calculator

Property price£
Deposit£
Interest rate%
Repayment period
Monthly repayment

The Est. Mortgage is for a 25 years repayment mortgage based on a 10% deposit and a 5.5% annual interest. It is only intended as a guide. Make sure you obtain accurate figures from your lender before committing to any mortgage. Your home may be repossessed if you do not keep up repayments on a mortgage.

DISCLAIMER: Property descriptions and related information displayed on this page are marketing materials provided by Dai Lewis - Llandysul. Placebuzz does not warrant or accept any responsibility for the accuracy or completeness of the property descriptions or related information provided here and they do not constitute property particulars. Please contact Dai Lewis - Llandysul for full details and further information.
4 bedroom detached house for sale - powered by